Isod, rhoddwn wybodaeth am ein dau GYFARWYDDWR – EIRA HUGHES a BARON ISHERWOOD.
EIRA HUGHES DipLA, MCD, MRTPI, MLI

Llun Sefton Samuels FRPS
www.seftonphoto.co.uk
Lawrlwytho – Hanes Gyrfa Eira Hughes
Lawrlwytho – Hanes Cyhoeddiadau Eira Hughes
Lawrlwytho – Delweddau, Cynlluniau a Lluniadau Eira Hughes
Ganed EIRA HUGHES ym Mae Colwyn, Gogledd Cymru, mae’n ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg), cafodd ei haddysg yn Nyffryn Conwy, ac astudiodd yn Leeds a Lerpwl, cyn ymuno â Chyngor Dinas Manceinion a chael ei chymwysterau proffesiynol fel cynllunydd trefi siartredig a phensaer tirlunio.
Mae ei gyrfa hyd yma wedi cynnwys llawer o waith adfywio lleol i awdurdodau lleol yng Ngogledd-orllewin Lloegr a Gogledd a De Cymru, gan gynnwys Casnewydd ac Arfon.
Yn fwyaf diweddar (2002-2005) hi oedd Cyfarwyddwr Gweithredol dros Adfywio a Gwasanaethau Cymdogaeth yng Nghyngor Bwrdeistref Halton - awdurdod ‘Rhagorol’. Yno roedd yn gyfrifol am ddatblygiad economaidd, twristiaeth, prosiectau cyfalaf adfywio sylweddol, parciau a mannau agored, gwarchodfeydd natur lleol, a gwasanaethau cynnal sylfaenol. Cyflwynodd y gwasanaethau a reolwyd ganddi lawer o gynlluniau gwobrwyol - gan gynnwys Theatr Gelfyddydau newydd Brindley, Sgwâr Victoria newydd cyfoes, ac ailddatblygu ac ailwampio helaeth i ganol Runcorn a Widnes .
Cynhyrchodd Strategaeth Adnewyddu Trefol ar gyfer Halton, arweiniodd y Grŵp Llywio Prosiectau Cyfalaf y Cyngor, cyflwynodd amryw gynlluniau adwerthu newydd, ac arweiniodd / cadeiriodd dri o brif gynlluniau sylweddol –
- Castlefields – prosiect £100M ar gyfer stad fawr o dai
- Parth Datblygu Economaidd Glannau Widnes – prosiect £30M, a’r
- Cynnig Parc Strategol Nwyddau ar y Trên ar gyfer Ditton– prosiect £50M.

Gwaith Prifgynllunio Castlefields – Mae’r darn uchod yn dangos y Dudalen Deitl a’r Cynllun Llunio Lle, a gynhyrchwyd gan Taylor Young ar ran English Partnerships / Castlefields Partnership (Ailddangoswyd y darn gyda chaniatâd caredig deiliaid yr hawlfraint, Taylor Young).
Cynlluniau Tai Newydd ac Ailddatblygu a gyflwynodd EH yn Widnes a Runcorn (2002-2005) – ar ystâd Castlefields a ailwampiwyd yn sylweddol, a’r ailddatblygu a gwelliannau cyffredinol i ganol hen dref Runcorn.
Cynlluniau datblygiad adwerthu a gyflwynodd EH yn Widnes a Runcorn (2002-2005) – gan gynnwys pwll ac uned adwerthu clwb iechyd JJB, archfarchnad ASDA newydd, ailwampio ardal adwerthu Simms Cross, a siop Gydweithredol leol newydd yn Halebank.
Roedd Eira Hughes hefyd yn gyfrifol am sicrhau llawer gwell gwasanaethau sylfaenol (e.e. ailgylchu i fyny o 14% i 22% mewn 3 blynedd) a chynnal y parth cyhoeddus cyfan yn well. Gwnaed gwelliannau hefyd i gyfleusterau cynadledda a chyfleusterau eraill yn Stadiwm Halton (cartref Clwb Rygbi’r Widnes Vikings).

Cyn hynny, roedd hi’n Gyfarwyddwr Cynllunio, yr Amgylchedd a Chydgysylltu Polisi Rhanbarthol yn Swyddfa’r Llywodraeth ar gyfer Gogledd-orllewin Lloegr, ac yn Bennaeth Polisi a Chyngor Cadwraeth ac yn Brif Gynllunydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru.
Yn y swyddogaethau hynny, roedd ganddi gryn ddylanwad ar ddatblygiadau mawr newydd a datblygu polisi (gan gynnwys cyfres o bolisïau cadwraeth ar sail tystiolaeth ar gyfer GCGC a chyfrifoldeb dros gyfraniad yr Ysgrifennydd Gwladol i’r Cyfarwyddyd Cynllunio Rhanbarthol ar gyfer Gogledd-orllewin Lloegr – RPG 13 a’i olygu).
Cynlluniau datblygu mawr dan ddylanwad EH yng Ngogledd-orllewin Lloegr (1996-2002). Datblygiadau newydd dadleuol yng nghanol dinasoedd Manceinion a Lerpwl, a chynigion ar gyfer rhagor o adwerthu yn ac o amgylch dinas hanesyddol Caer.
Enghreifftiau o arferion gorau tirlunio a dylunio dan ddylanwad EH –plannu coed o safon yn estyniad Parc Busnes Caer, cadwraeth gwrychoedd, sgiliau coedyddiaeth/garddwrol traddodiadol a gwelyau blodau’n dychwelyd i Halton, a lliw mwy tymhorol mewn datblygiadau mawr newydd yng Ngogledd-orllewin Lloegr.
Gwnaeth lawer o gynnydd hefyd ar hyrwyddo datblygu cynaliadwy yng Nghymru a Gogledd-orllewin Lloegr, a chefnogodd ddylunio da. Mae’n ymroddi bob amser i gynllunio strategol, a datblygu polisi ar sail ymchwil gadarn er mwyn symud ymlaen a hefyd i warchod ansawdd treftadaeth, tirweddau a bywyd gwyllt.
Yng Ngogledd-orllewin Lloegr, sefydlodd ac arweiniodd Eira Hughes neu bu'n gadeirydd y Fforwm Gwledig ar gyfer Gogledd-orllewin Lloegr a Fforwm Arfordirol Gogledd-orllewin Lloegr, gydag enghreifftiau o arferion gorau ar gyfer Swyddfeydd arall y Llywodraeth yn y rhanbarthau i ddilyn.
Cafodd Eira Hughes gryn effaith hefyd ar gadwraeth treftadaeth ac adennill ac adfywio trefol yng Ngogledd a De Cymru yn gynharach yn ei gyrfa.
Cynlluniau Cadwraeth Treftadaeth - a luniwyd gan neu dan ddylanwad cryf EH - gan gynnwys Cynllun Trefol Caernarfon a gwaith cadwraeth cysylltiedig yng Nghaernarfon, a thriniaeth dan arweiniad cadwraeth i amgylchynu stryd o dai hŷn yng Nghasnewydd.
Cynlluniau cadwraeth wledig ac adennill a gyflwynodd EH yng Nghymru (1985-1991).
Mae Eira yn briod â David Brightmore ac yn awr mae’n byw yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint.
**************
BARON ISHERWOOD BA, PhD.

Llun gan Sefton Samuels FRPS
www.seftonphoto.co.uk
Lawrlwytho - Hanes Gyrfa Baron Isherwood
Lawrlwytho - Hanes Cyhoeddiadau Baron Isherwood
Ganed BARON ISHERWOOD ym Mhenarlâg, Gogledd Cymru. Wedi’i fagu yng Ngogledd-ddwyrain Cymru ac yn ne Lloegr, addysgwyd Baron yn Southampton ac astudiodd ym Mryste i safon PhD, cyn dod yn ddarlithydd prifysgol (ym Mhrifysgolion Bryste , Sussex a Llundain) ac yna ymuno â’r Gwasanaeth Sifil.
Yno rhoddodd gyngor manwl ar economeg i amrywiaeth o Adrannau’r wladwriaeth yn Llundain – gan gynnwys yr Adrannau cyfrifol am Iechyd a’r Amgylchedd. Dyfeisiodd ‘Ardaloedd Adnewyddu Cymdogaeth’ i ymosod ar broblemau cymdeithasol a thai mewn ffordd gyfannol, bu’n rheoli gwariant Rhaglenni Buddsoddi mewn Tai yn rhanbarth Gogledd-orllewin Lloegr a hefyd y Rhaglen Tir Diffaith Rhanbarthol. Yn ystod y cyfnod hwnnw hefyd dechreuodd gynhyrchu dogfen gyntaf y Cyfarwyddyd Cynllunio Rhanbarthol ar gyfer Gogledd-orllewin Lloegr, ac arweiniodd amryw achosion pwysig galw i mewn (gan gynnwys y cynigion ar gyfer Nirex a Chanolfan Trafford).
Fel Cyfarwyddwr Adfywio yn Swyddfa’r Llywodraeth ar gyfer Gogledd-orllewin Lloegr, roedd Baron yn atebol i Weinidogion am sicrhau cynnydd ar 100 o Gynlluniau Cyllideb Adfywio Unigol a 4 o Gwmnïau Her y Ddinas, ynghyd â 2 o Gwmnïau Datblygu Trefol, ynghyd â lliaws o fentrau’n cynnwys – Balchder Dinas Manceinion, ailadeiladu Canol Dinas Manceinion, Cronfeydd ERDF (Amcan 2), a sefydlu dechreuol RDA yng Ngogledd-orllewin Lloegr.
Fel Cyfarwyddwr Adfywio Awdurdod Datblygu Gogledd-orllewin Lloegr, gwnaeth lawer o waith ar adfywio yn haenau uchaf rhaglennu a chomisiynu – yn cynnwys gwariant sylweddol iawn ar raglenni £B, ac yn rheoli portffolio eiddo £100M yr Asiantaeth yn llwyddiannus.
Roedd ganddo ddylanwad cryf ar rychwant llawn prosiectau adfywio dan nawdd yr Asiantaeth………
DATBLYGU CYNALIADWY
3 O ‘GWMNÏAU ADFYWIO TREFOL’ (URC) SYLWEDDOL –
- GWELEDIGAETH LERPWL
- DWYRAIN MANCEINION NEWYDD
- DADENI LLYNNOEDD Y GORLLEWIN
9 O ‘SAFLEOEDD STRATEGOL’ RHANBARTHOL –
- ROCHDALE-CAERLIWELYDD - DWYRAIN MANCEINION NEWYDD - KNOWSLEY
- DARESBURY - SPEKE - WAVERTREE - CILGWRI - WARRINGTON
98 O GYNLLUNIAU ‘CYLLIDEB ADFYWIO UNIGOL’ -
- (CYLCHOEDD 1-6) - 7 o gynlluniau newydd wedi dechrau
ADFER TIR RHANBARTHOL
- Sefydlu cynlluniau Coedwigo ‘NEWLANDS’…
TREFI MARCHNAD / TREFI GLAN MÔR -
- 20 O GYNLLUNIAU TREFI MARCHNAD
- SEFYDLU ‘GWELEDIGAETH NEWYDD O DREFI GLAN MÔR’ ……
24 O BARTNERIAETHAU STRATEGOL LLEOL
- CYFRANNU I 24 O STRATEGAETHAU LLEOL
|
Mentrau yr oedd Baron Isherwood yn gyfrifol amdanynt ac oedd yn gofyn ei oruchwyliaeth a chyfranogiad egnïol er mwyn symud ymlaen y Strategaeth Economaidd Ranbarthol a thrawsffurfio Gogledd-orllewin Lloegr yn rhanbarth mwy cystadleuol.
Roedd cyfres y Dosbarthiadau Meistr Adfywio, a sefydlwyd ac a redwyd gan Baron Isherwood, yn llwyddiannus iawn o ran cefnogi datblygu sgiliau adfywio proffesiynol yng Ngogledd-orllewin Lloegr.
Yn hen law ar adfywio proffesiynol gyda sgiliau arwain, rheoli, dadansoddi a chyfathrebu cryf, a gallu deallusol, canolbwyntiodd Baron - ers gadael yr Asiantaeth yn 2003 - ar ddarlithio a chynghori ar adfywio - yn fwyaf diweddar yn Ffrainc ym Mhrifysgol y Sorbonne a Llwyodraeth Ffrainc - gwella ei Ffrangeg, a datblygu ei wybodaeth a’i fedr o ran cadwraeth ymarferol o adeiladau hanesyddol ac adeileddau pren.
Mae Baron yn briod â Nuala ac mae’n byw ym Manceinion.
Yn ôl i’r top
|